P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Newman, ar ôl casglu 209 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio paragraff 2.6 o Ddogfen Gymeradwy B mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn orfodol bod dyluniad, gosodiad a chynnal a chadw systemau preswyl a domestig ar gyfer ataliad tân yn cael ei gynnal gan neb ond pobl sy'n aelodau o gynlluniau ardystio trydydd parti priodol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff systemau arbed bywyd o'r fath eu dylunio, eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n gywir gan bobl sydd â'r cymwyseddau addas. Yn anffodus, nid felly y mae ar hyn o bryd.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Caerffili

·         Dwyrain De Cymru